Stori dyn o’r enw Terry a merch unarddeg mlwydd oed o’r enw Megan yw ‘Sbesial’. Mae’r stori’n digwydd dros gyfnod o dri diwrnod yn ystod mis Mehefin 2017 ac wedi’i leoli mewn parc.
Ar ôl sgwrsio gyda bachgen sy’n hŷn na nhw ar Facebook, mae Megan a’i ffrindiau yn dod i’r parc i gwrdd ag e, ond yr unig berson sydd yno yw’r ‘hen foi yma’ sef Terry.
Mae’r plant yn gwneud hwyl am ei ben, ac yn rhedeg i ffwrdd ond mae Megan yn gadel ei bag, a phan mae’n dychwelyd mae’r bag gan Terry. Mae Megan yn dod i ddeall bod gan y ddau dipyn o bethau’n gyffredin, a bod Terry yn wahanol iawn i’w hargraff gyntaf.
Mae ‘Sbesial’ yn awr o hyd, gyda gweithdy rhyngweithiol dilynol.
Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y link uchod